top of page

Fel busnes yn cael ei leoli yng Nghymru, rydym yn falch iawn i allu rhoi cynnig ein gwasanaethau yn y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.

Rydym wedi bod yn falch i weithio gyda sefydliadau fel Menter Iaith, mudiad sy’n gweithio i godi proffil y Gymraeg, ac rydym wedi cynhyrchu fideos niferus ac amrywiol ar eu cyfer yn cefnogi nifer o brosiectau.

Cae Ras 2.png
Symud gyda Tedi 3.jpg

Bydd llawer hefyd yn ymwybodol bod gan y Gymraeg statws cyfartal â'r Saesneg yng Nghymru ac felly mae sefydliadau cyhoeddus yn sicrhau bod pob cyhoeddiad yn cael ei ddarparu yn y ddwy iaith.

Mae hyn yn cynnwys cynyrchiadau fideo ac rydym wedi bod yn falch i weithio ar nifer o brosiectau ar gyfer Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol, lle rydym wedi cynhyrchu cynnwys fideo sy’n ymdrin â fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Lle mae'n well gan gleientiaid, rydym yn hapus i gynnal yr holl gyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Gymraeg.

Fel gwasanaeth ychwanegol rydym hefyd yn darparu trosleisiau yn Gymraeg. Ar gyfer sgript Gymraeg penodol gallwn recordio'r troslais yn fewnol a chydamseru'r recordiad sain gyda delweddau fideo'r cynhyrchiad - mae enghreifftiau i'w gweld yn y fideos isod.

Theatr Clwyd filming with Menter Iaith.jpg
enghrefftiau fideos cymraeg
bottom of page